BerwynEVANS16eg Medi 2025
Yn dawel yng nghwmni ei deulu yn Ysbyty Glan Clwyd yn 87 mlwydd oed, o Gelli, Llansannan (gynt o Crebane, Dinbych).
Priod annwyl a ffrind pennaf Ann; tad a thad yng nghyfraith arbennig a gofalus Gwyn a Sharon, a Rhys a Carmel; taid cefnogol a hwyliog Erin, Niamh, Cian, Eoghan a Róisín; brawd y diweddar Geraint, Enid ac Alun, a ffrind i lawer.
Angladd dydd Sadwrn, 4ydd Hydref. Gwasanaeth yng Nghapel Coffa Henry Rees, Llansannan am 11eg o'r gloch, ac yna rhoddir i orffwys ym Mynwent y Capel. Gwisg lliwgar yn ôl ei ddymuniad.
Blodau teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Berwyn i'w rhannu rhwng Ysgol Bro Aled a Chronfa Cadw Mynwent Capel Coffa Henry Rees (sieciau'n daladwy i R W Roberts a'i Fab os gwelwch yn dda)
R W Roberts a'i Fab,
Gorffwysfa, Ffordd Ystrad,
Dinbych, LL16 4RH
01745 812935
Keep me informed of updates